Makaton a Dwylo’r Enfys
Cynllun iaith sydd yn defnyddio arwyddion, symbolau a lleferydd i helpu pobl i gyfathrebu yw Makaton. Cafodd ei gynllunio i gefnogi’r iaith lafar a defnyddir yr arwyddion a’r symbolau ar y cyd a siarad, yn nhrefn geiriau’r iaith lafar.
Gan ddefnyddio Makaton, mae plant ac oedolion yn gallu cyfathrebu, gan ddefnyddio arwyddion a symbolau. Yn aml bydd llawer ohonyn nhw yn gollwng rheini pan fyddan nhw’n barod i wneud hynny, fel y bydd eu lleferydd yn datblygu
Mwy am Makaton ar eu gwefan www.makaton.org
Dwylo’r Enfys
Rhaglen sydd yn ymddangos ar Cyw ar S4C ydi Dwylo’r Enfys. Ymhob rhaglen bydd Heulwen yn gadael ei chartref ym Mhendraw’r Enfys ac yn teithio dros yr Enfys i ddod i Gymru. Yma, mae hi’n cyfarfod ffrind newydd – plentyn sydd ag anghenion cyfathrebu arbennig, am ba reswm bynnag – a chyda’i gilydd, mae’r ddau’n mynd ar antur ac yn dysgu tri arwydd Makaton newydd yn y fargen!
I wybod mwy am Dwylo’r Enfys a gwylio arlein, ewch i wefan S4C: http://cyw.s4c.co.uk/en/rhaglenni/dwylor-enfys
Ceidiog
Mae Ceidiog yn cynhyrchu llawer o raglenni Cyw. Y Diwrnod Mawr a Marcaroni yw dwy o’n cyfresi. Cafodd Y Diwrnod Mawr ei henwebu am bump o wobrau rhyngladol. Rydyn ni’n hynod browd o Dwylo’r Enfys – ac mae’n fraint cael treulio amser efo plant a’u teuluoedd.
Eisoes eleni, enwebwyd Dwylo’r Enfys – a ymddangosodd ar yr awyr gyntaf yn Rhagfyr 2012 – am Wobr Rockie yn Banff, Canada. Hefyd fe’i henwebwyd am wobr Bafta Cymru.
I wybod mwy am Ceidiog, ewch i’r wefan www.ceidiog.com/tv/