W.C. Fields (medde nhw) ddywedodd “peidiwch byth a gweithio gyda phlant ac anifeiliaid” – a’r rheswm am hynny oedd y bydden nhw’n bownd o gael y sylw, ac nid eu cydactorion hyn.
Wel, da hynny ddweda i – achos ganddyn nhw y cewch chi’r doniol, y gwir, yr annisgwyl a’r arbennig sydd yn gwneud rhaglenni teledu llawn difyrrwch.
Dyma pam mae’n gymaint o bleser cynhyrchu rhaglen fel “Dwylo’r Enfys”. Pediwch a chamddeall, mae’n sialens ar brydiau ac mae’n rhaid bod yn hyblyg. Yn aml byddai’n taflu’r sgript i’r bin ar ol eiliadau o ffilmio achos bod gan y plentyn syniad mwy difyr na fi.
Fel gydag Ethan. Rhoi moethau i’r mul roeddwn i wedi meddwl y byddai’n ei wneud. Ond o na roedd ganddo syniad gwell! Beth am arwain y mul?! Ac er bod fy nghalon yn fy ngwddw yn gweld y bachgen bach yn arwain yr anifail (gallasai hwnnw hefyd ymddyn yn annisgwyl), ar ôl inni wneud yn siwr bod oedolion yn ddigon agos ond allan o’r siot, dyna beth ddigwyddodd! Ac roedd y rhaglen dipyn yn fwy deinamig o’r herwydd.
Ers blynyddoedd bellach rydyn ni fel cwmni wedi bod yn creu rhaglenni sydd yn rhoi’r plant ar y llwyfan megis. Cawsom dair blynedd o hwyl a sbri yn ffilmio plant ar gyfer “Y Diwrnod Mawr” oedd yn bobolgaidd iawn gyda’r plantos – a chyda phaneli beirniaidu fel Bafta Plant DU, RTS a Rose D’Or.
Ond sut daeth “Dwylo’r Enfys” i fod? Wel mi roeddwn i yn cynhyrchu cyfres o “Something Special” i Cbeebies, allan o Manceinion ar y pryd, ac mae’n siwr bod y profiad hwnnw wedi rhoi hygrededd pan roedd S4C isio comisiynnu rhaglen fyddai’n cyflwyno iaith arwyddo Makaton yn y Gymraeg am y tro cyntaf.
Roedd Ruth Thomas – sydd yn fam i Enfys, merch fach o ardal Caernarfon sydd a Syndrom Down – wedi cysylltu â’r sianel yn nodi’n gywir iawn nad oedd llwyfan i blant ag anghenion arbennig ar S4C. Roedd ganddi syniad am raglen Gymraeg a fyddai’n gwneud hynny. Roedd y sianel yn awyddus iawn i gael rhaglen o’r fath, fe ddatblygodd Ceidiog y syniad yn fformat a’i gynhyrchu ac felly fe gafodd Ruth wireddu ei breuddwyd!
Mae Ruth yn siarad yn huawdl iawn am sut y trawsnewidodd iaith arwyddo Makaton fywyd ei theulu – hi ac Enfys wrth gwrs, yn ogystal ag Eurwyn ei dyweddi. Gallwch weld pwt o’r sgwrs mewn fideo ar y wefan hon sydd yn rhan bellach o’r deunyddiau Hyfforddi Makaton drwy gyfrwng y Gymraeg sydd ar gael. Gobeithio’n wir y bydd pawb yn manteisio ar y cyfle i ddysgu am gyfathrebu gyda phawb!
Does dim rhaid dweud pa mor bwysig ydi hi fod plant ag anghenion cyfathrebu arbennig yn cael y cyfle i ddysgu arwyddo yn eu iaith eu hunain. Ond os cyfathrebu, mae’n rhaid iddyn nhw ei wneud ag eraill, ac mae angen i gymuned y plentyn – yn yr ysgol, yn lleol ac wrth gwrs yn y teulu fedru deall ac arwyddo. Dyna pam rydyn ni mor falch bod cynulleidfa ifanc y rhaglen hon yn gymysgedd hyfryd o blant sydd ag anhawsterau cyfathrebu, a phlant sydd hebddyn nhw.
Mae Enfys yn un o sêr y gyfres ac wedi ymddangos mewn rhaglen Nadolig hyfryd iawn, iawn gyda’i ffrindiau o Ysgol Arbennig Pendalar ac o Ysgol Prif Lif Bontnewydd.
A chan ei bod yn dymor y Nadolig, rydyn ni am rannu fideo o’r cyngerdd lle canodd côr cymysg o blant un o ganeuon hwyliog ac anthemig “Dwylo’r Enfys” – “Dan Ni’n Ffrindiau”!
Nadolig Llawen!