Official Photo/Llun Swyddogol
Derbyniodd Nia Ceidiog (Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Dwylo’r Enfys) wobr BAFTA nos Sul, Medi 29 ar ran yr holl blant sydd wedi ymddangos yn y gyfres. Meddai Nia “Oni bai am y plantos fyddai na ddim rhaglen o gwbl. Mae wedi bod yn fraint eu cyfarwyddo ac mae’n diolch ni i gyd fel tim yn Ceidiog, iddyn nhw a’u teuluoedd.
Mae Ceidiog Cyf yn cynhyrchu canran uchel o raglenni gwreiddiol “Cyw” ar S4C – fel “Maracroni” ac “Y Diwrnod Mawr” ac mae Nia wedi cynhyrchu “Something Special” i Cbeebies.